Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a'u cynorthwywyr ynghylch materion dan ystyriaeth gan y Cynulliad a'i bwyllgorau ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a'r cyngor a gynhwysir ynddi yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd partïon.

 

This document has been prepared by National Assembly for Wales lawyers in order to provide information and advice to Assembly Members and their staff in relation to matters under consideration by the Assembly and its committees and for no other purpose. Every effort has been made to ensure that the information and advice contained in it are accurate, but no responsibility is accepted for any reliance placed on them by third parties

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL

 

Y BIL DADREOLEIDDIO: GWELLIANNAU MEWN PERTHYNAS Â DEDDF DALIADAU AMAETHYDDOL 1986, DEDDF BRIDIO CŴN 1973 A DEDDF BRIDIO A GWERTHU CŴN (LLES) 1999

 

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Cyflwyniad

1.       Cyflwynwyd y Bil Dadreoleiddio ("y Bil") yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Ionawr 2014 ac mae yn y cyfnod adrodd ar hyn o bryd. Penderfynwyd y byddai trafodion y Bil yn cael eu trosglwyddo i’r sesiwn Seneddol nesaf.

2.       Gosododd Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ("Memorandwm") ynghylch y Bil ar 24 Chwefror 2014. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm ar 31 Mawrth 2014. Yn dilyn hynny, gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm ar 1 Mai 2014.

3.       Ar 22 Ebrill 2014, gosododd Alun Davies AM Femorandwm atodol yn sgîl gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil.

Cefndir

4.       Amcanion polisi Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw dileu neu leihau beichiau rheoleiddiol diangen sy’n rhwystro neu’n arwain at gostau i fusnesau, unigolion, gwasanaethau cyhoeddus neu drethdalwyr. Mae’n cynnwys mesurau sy’n ymwneud â meysydd busnes cyffredinol a phenodol sy’n cwmpasu meysydd amrywiol, o adloniant i weinyddu cyfiawnder.

 

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

5.       Mae’r Memorandwm atodol yn nodi gwelliannau i’r Bil, a osodwyd yng nghyfnod Pwyllgor y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin, sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a cheisir ei gydsyniad mewn perthynas â hwy.

Diwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986

6.       Mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn berthnasol i denantiaethau amaethyddol a drefnwyd cyn 1 Medi 1995 a rhai tenantiaethau a drefnwyd ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae’n rheoli’r berthynas rhwng y landlord a’r tenant, yn ogystal â rhoi sicrwydd deiliadaeth a hawliau olyniaeth, gan reoleiddio telerau’r denantiaeth a darparu ar gyfer iawndal i’r tenant neu’r landlord o dan rai amgylchiadau.

7.       Ar hyn o bryd, mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn darparu tair ffordd o ddatrys anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid, gan gynnwys cymrodeddu.

8.       Mae’r Memorandwm yn nodi mai cymrodeddu yw’r brif ffordd o ddatrys anghydfodau ar hyn o bryd, a gellir atgyfeirio’r rhan fwyaf o anghydfodau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn orfodol i gam cymrodeddu.

9.       Cytunwyd ar welliannau a gyflwynwyd i’r Bil sy’n ymwneud â Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 gan Bwyllgor Biliau Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar 25 Mawrth 2014.

10.     Byddai’r gwelliannau yn galluogi i’r partïon sy’n rhan o rai anghydfodau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, gael eu hatgyfeirio at arbenigwr annibynnol a gyfarwyddir ar y cyd, er mwyn gwneud penderfyniad arnynt drwy drydydd parti yn hytrach na thrwy gymrodeddu. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn sicrhau proses llai ffurfiol, rhatach a chyflymach o ddatrys anghydfodau.

11.     Pan gynigiodd y gwelliant yn y Pwyllgor, dywedodd Oliver Heald QC AS, y Cyfreithiwr Cyffredinol, y gallai penderfyniadau o dan y broses newydd arwain at arbedion o hyd at £10,000 i’r partïon ym mhob achos. Dywedodd hefyd fod ffermwyr tenant wedi gofyn am y diwygiad, a bod cefnogaeth gref i’r diwygiad o du’r Grŵp Diwydiant Diwygio Tenantiaethau, sef y grŵp cynghori sy’n cynrychioli landlordiaid a thenantiaid daliadau amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.

12.     Nid yw’r gwelliannau yn cynnwys unrhyw bwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, ac maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i’r graddau y maent yn gymwys i faes Amaethyddiaeth a maes Tai o fewn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 

 

Gwelliannau i Ddeddf Bridio Cŵn 1973

13.     Mae gofyniad o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 ar hyn o bryd i safleoedd trwyddedig sy’n bridio cŵn gadw cofnodion ysgrifenedig o’u geist bridio ac unrhyw dorllwythi y byddant yn eu cael.

14.     Byddai’r gwelliannau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Biliau Cyhoeddus ar 18 Mawrth 2014 yn dileu’r gofyniad hwn.

15.     Noda Llywodraeth Cymru mai diben y gwelliant yw lleihau’r baich ar fusnesau bach, gan y bydd yn dyblygu gofynion a geir yn Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, y bwriedir eu gosod a’u gwneud cyn toriad yr haf. Ym mharagraff 15 o’r Memorandwm, noda Llywodraeth Cymru y bydd y rheoliadau’n cynnwys prosesau adnabod priodol, er enghraifft yr angen i gi gael microsglodyn cyn gadael safle bridio a’r angen i gadw cofnodion priodol ar fridio cŵn.

Gwelliannau i Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999

16.     O dan Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999, mae’n drosedd i ddeiliad safle bridio trwyddedig werthu ci i ddeiliad siop anifeiliaid anwes drwyddedig neu safle magu trwyddedig yn yr Alban, os nad yw’n gwisgo coler ag arni dag neu fathodyn adnabod pan fo’r ci hwnnw’n cyrraedd y prynwr. Yn yr un modd, mae’n drosedd i berchennog siop anifeiliaid anwes werthu anifail o’r fath.

17.     Byddai’r gwelliannau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Biliau Cyhoeddus yn dileu’r gofynion hyn.

18.     Ym mharagraff 14 o’r Memorandwm, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau nad yw’r gwelliannau’n dileu’r gofyniad yng Ngorchymyn Rheoli Cŵn 1992 bod unrhyw gi mewn man cyhoeddus yn gwisgo coler ag arni enw a chyfeiriad y perchennog wedi’u hysgrifennu neu’u hysgythru.

19.     Yn yr un modd â’r gwelliannau i’r Ddeddf Bridio Cŵn, mae’r Llywodraeth o’r farn bod y darpariaethau’n ddiangen gan mai’r bwriad yw i’r rheoliadau bridio cŵn ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael microsglodyn cyn gadael safle bridio beth bynnag, a byddai hynny’n fodd i adnabod y cŵn.

 

20.     Nid oes unrhyw bwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth yn Neddf Bridio Cŵn 1973 na Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 ac mae’r gwelliannau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i’r graddau y maent yn ymwneud ag Iechyd Anifeiliaid o fewn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Materion i’r Pwyllgor

21.     Mae paragraff 19 o’r Memorandwm yn nodi mai mantais defnyddio’r Bil hwn, yn hytrach na deddfwriaeth y Cynulliad, yw mai’r Bil yw’r dull deddfwriaethol mwyaf ymarferol a chymesur o wneud y darpariaethau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Mae’n nodi, "The proposed amendments are technical and non-contentious. In addition, the inter-connected nature of the relevant Welsh and English administrative systems mean that it is most effective and appropriate for the Bill provisions to be taken forward at the same time in the same legislative instrument."

22.     Dylid nodi mai’r Ysgrifennydd Gwladol sydd â’r pŵer i gychwyn Atodlenni’r Bil sy’n ymdrin â’r diddymiadau. Ef felly a fydd yn penderfynu pryd y bydd y darpariaethau hynny’n peidio â chael effaith.

23.     Yn Lloegr, ni fydd rheoliadau ynghylch microsglodion yn dod i rym tan fis Ebrill 2016, a bydd etholiad cyffredinol cyn hynny.

24.     Y drafferth, pan fo’r pŵer yn gyfan gwbl yn nwylo’r Ysgrifennydd Gwladol, yw ei bod yn debygol, o ystyried yr amserlen arfaethedig, y bydd yn dal i fod cyfnod pan fo’n rhaid i fridwyr cŵn a pherchnogion siopau anifeiliaid anwes yng Nghymru gydymffurfio â’r gofynion o dan y rheoliadau bridio cŵn newydd, yn ogystal â gofynion Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999. Mae perygl hefyd, os bydd amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer y rheoliadau bridio cŵn yn newid, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cychwyn Atodlen berthnasol y Bil cyn y daw’r rheoliadau bridio cŵn i rym yng Nghymru, y byddai bwlch yn y gyfraith a fyddai’n galluogi bridwyr cŵn a pherchnogion siopau anifeiliaid anwes i brynu a gwerthu cŵn nad oes modd eu hadnabod nac olrhain eu hanes yn ôl i sefydliadau penodol.

 

Gwasanaethau Cyfreithiol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mai 2014